Click here to read in English.
Nid yw mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, fel bwlio, gordewdra a thlodi, yn hawdd i athrawon. Yn yr ysgol, profiadau bob dydd disgyblion sy’n cael yr effaith fwyaf – p’un a ydynt yn gadarnhaol neu’n negyddol – ar eu hiechyd a’u llesiant. Mewn adroddiad newydd, mae Estyn yn amlygu pwysigrwydd rhoi negeseuon cadarnhaol yn gyson ar draws pob agwedd ar fywyd ysgol.
Mae llesiant disgyblion bob amser wedi bod yn faes sy’n ganolog i’n harolygiadau. Ac, wrth i ysgolion ddatblygu’u meysydd dysgu a phrofiad yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd, bydd y ffocws ar lesiant yn gryfach fyth. Mae’r cwricwlwm newydd yn cydnabod bod iechyd a llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol da yn sylfaen i ddysgu llwyddiannus.
Mae ein hadroddiad yn dwyn ynghyd wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol, gan olygu bod ambell ran enbyd ynghylch profiadau disgyblion eu hunain, gan gynnwys ysmygu, yfed ac iechyd rhyw.
Darganfuom fod negeseuon am iechyd a llesiant mewn gwersi, gwasanaethau ac mewn polisïau yn yr ysgolion gorau yn gyson â phrofiad bob dydd disgyblion.
Lle i gymdeithasu, diwylliant anogol, cyfleoedd pleserus i fod yn weithgar yn gorfforol, gofal bugeiliol amserol a gwaith cadarnhaol gyda rhieni, dyma rai o’r dulliau sydd, o’u cyfuno, yn cynorthwyo disgyblion i fod yn unigolion iach a hyderus, yn barod i fyw bywyd boddhaus.
Mae diwylliant anogol, lle y mae perthnasoedd cadarnhaol yn galluogi disgyblion i ffynnu, yn hanfodol i gryfhau iechyd a llesiant pobl ifanc. Ni ddylid tanamcangyfrif y pethau bach y mae athrawon da yn eu gwneud, fel gwenu a chyfarch disgyblion yn ôl enw ar ddechrau’r diwrnod neu wers unigol. Maent yn helpu disgyblion i deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn annog meddylfryd cadarnhaol.
Ystyriwch p’un a yw dull eich ysgol yn gyson ar draws bob agwedd ar ei gwaith. A oes gan yr ysgol:
- Bolisïau ac arferion sy’n sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu?
- Arweinwyr sy’n ‘gwneud y dweud’ ynghylch cefnogi iechyd a llesiant disgyblion?
- Diwylliant anogol, lle y mae perthnasoedd cadarnhaol yn galluogi disgyblion i ffynnu?
- Cymuned ac ethos cynhwysol?
- Gwybodaeth fanwl am iechyd a llesiant disgyblion sy’n dylanwadu ar bolisïau a chamau gweithredu?
- Amgylchedd a chyfleusterau sy’n hybu iechyd a llesiant da, fel lle i chwarae, cymdeithasu ac ymlacio amser egwyl?
- Cwricwlwm eang a chytbwys, sy’n cynnwys profiadau dysgu unigol, yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n hybu iechyd a llesiant?
- Gofal bugeiliol cefnogol ac ymyriadau targedig i ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol?
- Cysylltiadau effeithiol ag asiantaethau allanol?
- Partneriaethau agos â rhieni a gofalwyr?
- Dysgu proffesiynol parhaus i’r holl staff, sy’n eu galluogi i gefnogi iechyd a llesiant disgyblion?
Mae arfer dda’n cael ei hamlygu drwy astudiaethau achos yn yr adroddiad. Mewn ysgolion uwchradd, yn benodol, nid yw profiad bob dydd disgyblion o iechyd a llesiant bob amser yn cyfateb i nodau sy’n cael eu datgan gan arweinwyr ysgol. Ond, fe wnaeth Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd wella arweinyddiaeth yr ysgol yn llwyddiannus a chafodd hyn effaith gadarnhaol amlwg ar y diwylliant a’r gefnogaeth ar gyfer llesiant disgyblion. Mae ei diwylliant yn cydnabod bod pobl ifanc o hyd yn datblygu’n gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol a bod gan athrawon gyfrifoldeb i fynd i’r afael ag anghenion datblygiadol y plentyn cyfan. Hefyd, mae’r ysgol yn nodi mai o ddealltwriaeth athro o’r ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu y mae arbenigedd yr athro yn deillio, yn hytrach na dim ond ei wybodaeth bynciol.
Yn Ysgol Gynradd Gilwern, Sir Fynwy, mae ei hymagwedd at gefnogi disgyblion agored i niwed wedi helpu staff i ddeall yn well y rhesymau sydd wrth wraidd diffyg hunan-barch neu ymddygiad annymunol.
Mae iechyd a lles yn nodwedd bwysig o gyflawni pedwar diben y cwricwlwm newydd mewn ysgolion. Mae gan ysgolion gyfle nawr, yn fwy nag erioed, i gynnig buddion gydol oes i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae’r adroddiad llawn ar gael ar estyn.llyw.cymru ac mae’n argymell ffyrdd y gall ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, darparwyr addysg gychwynnol athrawon a’r llywodraeth wella iechyd a llesiant disgyblion. Gall athrawon ac arweinwyr ddefnyddio astudiaethau achos yr adroddiad i ysbrydoli newidiadau yn eu hysgolion eu hunain.